Gartref

Amdanom

Lincs

Cysylltu

 

Rheilffordd Ucheldir Cymru


     Dewch am siwrne ar Dren stem! cewch grwydro o amgylch y siediau i weld hen greiriau. Bydd rhywun yno i'ch tywys o gwmpas ac i roi gwybodaeth am hanes y trenau. Cewch groeso cynnes yn ein gorsaf!

Tremadog Road, Porthmadog, LL49 9DY

Tel: 01766 513402

http://www.whr.co.uk



Rheilffordd Ffestiniog


     Mae'r rheilffordd yma yn cychwyn ei thaith o harbwr Porthmadog. Cewch ddilyn ôl cledrau hanesyddol y trenau chwareli am 131/2 milltir. Bydd golygfeydd godidog i'w gweld, o aber yr Afon Glaslyn, i gysgod y coed a  swn rhaeadrau. Bydd y tren yn edrych i lawr ar yr Afon Dwyryd ac yn pasio drwy orsaf Tan y Bwlch a heibio Orsaf Bwer Ffestiniog.  Daw'r daith i ben yn un o brif drefi y chwareli sef Blaenau Ffestiniog.

 

Harbour Station, Porthmadog, LL49 9NF

Tel:  01766 516000

http://www.ffestiniograilway.co.uk/



Clwb Golff Porthmadog


    Mae'r Clwb ym mhentref glan y môr Morfa Bychan, pentref sy'n enwog am draeth tywodlyd hir y Greigddu. Mae'r cwrs ei hun yn gymysgedd o las a rhosdir. Perffaith i phob golffiwr.

 

Morfa Bychan, Porthmadog, LL49 9UU

Tel:  01766 514124

http://www.porthmadog-golf-club.co.uk



Canolfan Hamdden Glaslyn


    Lleolir y Ganolfan gyferbyn â'r Orsaf Reilffordd. Mae'n Ganolfan newydd modern â chanddo bwll nofio plant ac oedolion gwych. Yn ogystal mae yna gyrtiau sboncen, neuadd chwaraeon ac ystafell ffitrwydd .

 

Stryd Y Llan, Porthmadog, LL49 9HW

Tel: 01766 512711



Parc Porthmadog


    Me'r parc yng nghanol y dref gyferbyn â'r safleoedd bws. Mae yno le i 'bytio golff, 'golffio gwirion' a chwarae peldroed 5 bob ochr. Mae digonedd o feinciau i eistedd tra bo'r plant yn chwarae yn y parc.