|
| |||||||
| |||||||
|
Porthmadog Portmadoc oedd enw'r dref hyd nes 1974, yn y flwyddyn hon cyfieithwyd yr enw i'r Gymraeg, sef Porthmadog. Does neb yn sicr o ble y daw'r enw gwreiddiol, dywed rhai mai ar ôl William Alexander Maddocks ei hun y daw yr enw. Dywed eraill mai ar ôl Tywysog Madog ap Owain Gwynedd a ddarganfyddodd America yr enwyd y dref. Mae ynys yn Aber yr afon Glaslyn ger Porthmadog o'r enw Ynys Fadog, sydd yn ôl rhai wedi'w henwi ar ôl y Tywysog Madog. Fodd bynnag, dengys dogfennau hanesyddol mai "Pentre'r Gwaelod" oedd yr enw a ddefnyddiwyd am y dref gan Maddocks ei hun. Cafodd yr enw Porthmadog ei ddefnyddio mewn ffynhonellau hanesyddol oddeutu'r flwyddyn 1830. Nid oes esboniad dros y newid yn yr enw. |